Prosiectau
Gwaith Craidd
Ein nod yw cynyddu a chefnogi datblygiad cymunedol, ieithyddol ac economaidd trwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy'n targedu teuluoedd, plant a phobl ifanc a'r gymuned er mwyn annog pawb i gael y cyfle i ddefnyddio, ymarfer a chryfhau eu Cymraeg yn ardal Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Trwy gynnig blas cychwynnol o'r iaith a diwylliant Cymraeg i lawer, rydym yn gobeithio annog nifer y siaradwyr Cymraeg a helpu i gyfrannu tuag at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gŵyl Canol Dre
Cynhaliwyd Gŵyl Canol Dre am y tro cyntaf yn 2018 ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, sef un o brif ddigwyddiadau Cymraeg ardal Caerfyrddin. Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, llenyddiaeth, celf ac amrywiaeth o weithdai. Mae yna dau lwyfan ar y maes, un yn cynnwys unigolion a bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â pherfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal. Mae’r ŵyl yn cynnig platfform i fusnesau gydag ardal stondinau i werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau lleol i hyrwyddo eu gwasanaethau.
Cynllun Profi
Nod y cynllun yw i ddatblygu sgiliau byd gwaith pobl ifanc drwy gydweithio gyda 7 ysgol uwchradd yn ardal De Ceredigion a Gorllewin Sir Gâr. Mae'r tîm yn darparu amrywiaeth o sesiynau a chefnogi gyda'r broses o ymchwilio i gyfleoedd profiad gwaith, gwirfoddoli a gwaith rhan-amser addas. Bydd pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn cerdyn gwobrwyo sy'n ei alluogi iddynt derbyn gostyngiadau amrywiol mewn siopau lleol.
Mae'r cynllun yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda chyllid ychwanegol wedi'i sicrhau drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Ewch draw i sianel YouTube Menter Gorllewin Sir Gâr os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith neu fynd ati i ddatblygu eich sgiliau byd gwaith neu cysylltwch gyda'r tîm!
Mae Helo Blod yn brosiect cenedlaethol sy'n cynnig cefnogaeth a chymorth i fusnesau ar eu defnydd o'r Gymraeg. Gall hyn gynnwys cyfieithu am ddim, marchnata dwyieithog, recriwtio ac unrhyw beth o ran y Gymraeg mewn busnes. Mae Heledd Llwyd yn swyddog wedi'i leoli yn yr ardal a gwmpesir yma ym Menter Gorllewin Sir Gâr ynghyd ag ardaloedd Menter Iaith Sir Benfro. Cysylltwch am gymorth bellach.

Cynllun Digidol
Mae yna ddwy elfen i weithgaredd MGSG Digidol, y cyntaf yw gweithredu cytundebau ar ran y Canolfannau Byd Gwaith i ddarparu sesiynau digidol i unigolion di-waith. Darperir y sesiynau yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl, Port Talbot, Castell Nedd, Abertawe, Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r sesiynau yn cynnwys darparu sgiliau digidol sylfaenol, cefnogaeth chwilio ac ymgeisio am swyddi, creu a diweddaru CVs a chefnogaeth i ddefnyddio cyfrifon Credyd Cynhwysol.
Yr ail elfen a ddarperir gan MGSG Digidol yw Prosiect Digidol Sir Gâr sy’n cynnig cymorth digidol i unigolion ar ffurf sesiynau anffurfiol ar draws y Sir. Nod y cynllun yw cynnig cymorth digidol amrywiol megis, sut i ddefnyddio Cyfrifiadur, Gliniadur, Tablet/iPad, defnyddio'r We, Apiau a mynediad i wasanaethau ar-lein. Cyllidir y cynllun gan raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.