top of page

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn un o 3 Menter Iaith yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn weithredol yn ei ffurf bresennol ers 2007 pan gyfunwyd Menter Taf Myrddin a Menter Bro Teifi i greu endid sengl ar draws yr ardal. Tra bod y brif swyddfa wedi'i lleoli yng Nghastell Newydd Emlyn mae'r ail swyddfa yng nghanolfan Yr Atom yng nghanol tref Caerfyrddin.

Rydym yn gweithredu dros ardal orllewinol Sir Gaerfyrddin sy'n ymestyn o arfordir Pentywyn yn y de; i fyny at Ddyffryn Teifi yn y gogledd, sydd yn creu ffin sirol naturiol â Cheredigion, ac o Dref Caerfyrddin ac ucheldir mynyddoedd Llanllwni a Phencader yn y dwyrain at y ffin sirol â Sir Benfro yn y gorllewin. Gweithredir hefyd nifer o brosiectau ar draws rhanbarth y Gorllewin yn ddibynnol ar gytundebau a chontractau penodol.

Prif waith Menter Gorllewin Sir Gâr felly yw datblygu a chynyddu’r defnydd o'r Gymraeg o fewn yr ardal a hynny gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, yn y gymuned, gyda busnesau, mudiadau a sefydliadau. 

Albwm Lluniau

Amdanom Ni

Rydym yn annog, hybu, hyrwyddo a chefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg yn ardal Gorllewin Sir Gâr i greu cymunedau sy’n naturiol ddwyieithog a llewyrchus.

bottom of page