top of page

Cyfleoedd

Cyfleoedd

Swyddog Prosiect Profi

Logo Newydd Profi 2021.png

Swyddog Prosiect Profi

Rydym yn chwilio am berson i ddarparu cefnogaeth a chymorth i bobl ifanc a’r sefydliadau sydd yn rhan o’r cynllun, ynghyd â datblygiad cynnwys digidol apelgar.

Mae rhaglen Profi yn gweithredu yn Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion i ddatblygu sgiliau byd gwaith pobl ifanc. Drwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc fynychu sesiynau Profi a hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau drwy fanteisio ar leoliadau profiad gwaith a gwirfoddoli.

Hyrwyddir gwobrau gan fudiadau a busnesau sydd yn rhan o’r cynllun i’r bobl ifanc yn wobr am gymryd rhan a datblygu sgiliau. Ynghyd â bod yn wobr bydd hyn yn annog gwario lleol.

Mae rhaglen Profi yn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle gan annog pobl ifanc i fanteisio ar eu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer datblygiad eu gyrfa.

Mae gwefan a chwis sgiliau interactif yn cael eu datblygu er mwyn helpu pobl ifanc i wella eu sgiliau byd gwaith.

______

Dyddiad Cau: 28/03/22 9:00

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle, ewch i'r botwm isod.

bottom of page