top of page
278622329_1297822857294076_5340809238629101259_n.jpg

Cwestiynau Cyffredinol

Pryd fydd yr ŵyl?  

Ar yr 11eg o Orffennaf, 2026 am 11yb - 9yh.

​

Ym mhle mae Gŵyl Canol Dre?

​Parc Myrddin, Caerfyrddin, SA31 1DS.

​

Sut mae cyrraedd yr ŵyl?

Cliciwch yma i weld y fideo i ddangos y ffordd i gyrraedd yr ŵyl.

​

Faint yw pris mynediad i'r ŵyl?

Am ddim! 

​

Pwy all ddod i'r ŵyl?​

Mae hon yn ŵyl deuluol felly bydd rhywbeth i blesio pawb.

​

Beth os dwi'n dysgu Cymraeg?

Wrth gwrs! Bydd gyda ni weithdai a digwyddiadau i bawb. Cymer olwg ar raglen y diwrnod yma. 

​

Beth fydd 'na?

Cerddoriaeth, celf, bwyd a diod, llenyddiaeth, stondinau, chwaraeon, gweithdai a llawer mwy!

​

A fydd angen i mi ddangos fy ngherdyn adnabod?

Mae'n bosib y gofynir i fynychwyr yr ŵyl ddangos cerdyn adnabod er mwyn profi eu hoed. 

​

A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?

Gan taw gŵyl deuluol yw Gŵyl Canol Dre, mae yna groeso i bawb. Gofynnwn yn garedig i blant o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.

​

Beth yw amserlen yr ŵyl?

Dyma restr o'r holl artistiaid a gweithdai 2026 sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma fan hyn. Byddwn yn cyhoeddi mwy yn wythnosol, felly cofiwch edrych ar ein gwefan a/neu cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. 

​

Ble alla i barcio?

Mae croeso i chi barcio yn un o feysydd parcio yn y dref yng Nghaerfyrddin. Mae pob maes parcio o fewn pellter cerdded i'r ŵyl. Cliciwch yma i weld fideo yn ddangos y ffordd. Mae parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin. 

​

Mae gen i fathodyn glas, ble alla i barcio?

Mae yna faes parcio yn rhan o Barc Myrddin. Bydd mynediad i fynywchwyr gyda bathodyn glas. Arddsangoswch eich bathodyn a'i ddangos i'r stiwardiaid wrth y fynedfa. 

​

Faint o'r gloch mae'r fynedfa yn agor?

Bydd y fynedfa yn agor am 11yb. 

​

Beth os bydd hi'n bwrw glaw? 

Cofiwch wisgo yn addas ar gyfer y tywydd gan y bydd y prif lwyfan yn yr awyr agored. Serch hynny, bydd y gweithdai yn digwydd dan do mewn pebyll. 

​

Ga i ddod â phicnic?

Mae croeso i chi ddod a phicnic eich hun, ond gofynnwn yn garedig i chi beidio dod a diodydd alcoholig. Bydd gennym amrywiaeth o stondinau bwyd a diod yn ogystal â bar, felly rhywbeth i blesio pawb. Byddwn yn cyhoeddi'r rhestr o'r arlwywyr yma. 

​

A fydd toiledau a chyfleusterau bwydo a newid ar y safle?

Bydd digon o doiledau, toiledau anabl a chyfleusterau bwydo a newid yn yr ŵyl.

​

Ga i ddod a fy nghi i'r ŵyl?

Ni chaniateir cŵn ag eithrio cŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol.

​

A fydd lluniau neu fideos yn cael eu tynnu o'r ŵyl?

​

Bydd Menter Gorllewin Sir Gâr yn tynnu lluniau a/neu ffilmio yn y digwyddiad. Bydd y delweddau yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

​

  • Cyhoeddusrwydd printiedig yr ŵyl ar Fenter

  • Cyhoeddusrwydd ar-lein yr ŵyl ar Fenter (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol)

  • Eu rhannu â sefydliadau trydydd parti i'w ddefnyddio i hyrwyddo'r ŵyl

​

Os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio, cysylltwch ag aelod o staff Menter Gorllewin Sir Gâr ar y safle ac e-bostiwch: ymholiad@mgsg.cymru

​​

A fydd unrhyw ddarpariaeth feddygol ar y safle?

​

Bydd darpariaeth feddygol ar y safle trwy gydol y digwyddiad wedi eu lleoli mewn pabell ger y fynedfa.

​

​

​

rhaglen 3.png

Hawlfraint © 2021 Menter Gorllewin Sir Gâr- Cedwir pob hawl. 

Cyfeiriad Cofrestredig: MGSG, Llawr 1af CCF Cyf, Stryd y Bont, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA389DX
Rhif Elusen Gofrestredig: 1147184 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant. Wedi Cofrestru yng Nghymru. Rhif 05981013.

bottom of page