top of page

LocalMotion

Menter Gorllewin Sir Gâr yn ymuno â phrosiect LocalMotion Caerfyrddin.

 

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn falch o fod yn rhan o fenter newydd cyffrous sef LocalMotion. Amcan LocalMotion sydd yn gweithio mewn chwe lle yn unig yng Nghymru a Lloegr, gyda Caerfyrddin wedi ei dewis i fod yn un ohonynt, yw adeiladu mudiad cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i fynd at wraidd heriau cyffredin. 

 

Nod LocalMotion Caerfyrddin yw i greu’r dre hapusaf a mwyaf llewyrchus yng Nghymru, lle mae creadigrwydd a diwylliant wrth galon y broses o wella llesiant pobl a darparu economi fwy teg a chynhwysol i bawb – gan gynnwys creu’r sgiliau y gall y dref eu defnyddio i lunio a dod a phobl ynghyd i wneud y defnydd gorau o’i hasedau treftadaeth a diwylliannol niferus.

 

Dywedodd Maer Caerfyrddin y Cynghorydd Miriam Moules,

 

“Mae Caerfyrddin, tref hynaf Cymru yn falch o fod wedi cael ei dewis fel un o chwe lleoliad yn y Deyrnas Unedig, a’r unig le yng Nghymru i fod yn rhan o LocalMotion. Rydym am ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, gwneud Caerfyrddin y lle hapusaf yng Nghymru, a chyflawni prosiectau a arweinir gan y gymuned i bawb. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r dref, ac edrychwn ymlaen yn fawr at wrando ar bobl leol er mwyn siapio dyfodol Caerfyrddin.”

Sefydlwyd grŵp craidd i lywio gweithgaredd Localmotion Caerfyrddin sy’n cynnwys CAVS, Oriel Myrddin, Menter Gorllewin Sir Gâr, Drindod Dewi Sant, Yr Egin, BID Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin, Cyngor Sir Gâr, Antur Teifi, Carmarthenshire People First, Away Days, West Wales Action for Mental Health. Mi fydd yn dda clywed gan bobl sydd â diddordeb i gynorthwyo cyflawni’r amcanion yn enwedig rheiny sydd â phrofiad bywyd o’r heriau cymdeithasol mae LocalMotion yn dymuno newid.

 

Mae chwe ariannwr sefydledig yn cydweithio ar gyfer LocalMotion:  mae’n cynnwys Ymddiriedolaeth Esmee Fairbairn, Ymddiriedolaeth Lloyds Bank yng Nghymru a Lloegr, Ymddiriedolaeth Lankelly Chase, Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, Ymddiriedolaeth Tudor ac Ymddiriedolaeth City Bridge. Kathleen Kelly yw Cyfarwyddwr Cydweithio LocalMotion:

 

"Datblygodd LocalMotion o ddymuniad a rennir gan chwe chyllidwr yn y DU i adeiladu mudiad a allai ysbrydoli ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin y mae cymunedau'n eu hwynebu, fel y gallant ffynnu a ffynnu.

 

Wrth ystyried hanes democratiaeth yn y blynyddoedd diwethaf gwelwn y cynnydd ym mhwysigrwydd clywed lleisiau'r ifanc. Bydd y prosiect yn casglu barn, syniadau ac ymgysylltu â holl blant a phobol ifanc Caerfyrddin a'r cyffuniau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael eu clywed. Y bwriad yw ymgysylltu ag Ysgolion cynradd ac uwchradd tref Caerfyrddin a'r ysgolion cyfagos a chynnal cyfres o sesiynau hwyliog. Byddwn yn annog plant a phobol

ifanc i rannu syniadau mewn ffordd hwylus a chreadigol gan adlewyrchu amcanion y Cwricwlwm i Gymru a chanolbwyntio ar yr ardal leol gan bod hynny yn un o ddibenion y Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn bwriadu creu parteriaethau gyda sefydliadau sy'n cefnogi

disgyblion sy'n cael eu haddysgu adref er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael eu clywed a chydweithio â Choleg Sir Gâr i gynnal sesiynau ymgynghori hwyliog.

Prif nod y prosiect yw annog llais plant a phobol ifanc i greu ymdeimlad o falchder yn nhref Caerfyrddin gyda’r bwriad o annog pobl ifanc i aros neu dychwelyd i gyfoethogi Caerfyrddin gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymuned Caerfyrddin fel eu lle hapus.

 

Dywedodd Alma Roberts, Cydlynydd Prosiect ‘Caru Caerfyrddin’ sydd wedi bod wrthi’n cynllunio’r prosiect:

 

“Rwy’n gyffrous iawn i weithio ar y prosiect hwn. Bydd yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc Caerfyrddin i ddweud eu barn a chyfleu eu syniadau ar gyfer cynlluniau i wneud Caerfyrddin y lle hapusaf a mwyaf llewyrchus i fyw. Bydd yn fraint i gael cydweithio gyda’r ysgolion, y colegau, partneriaid a sefydliadau lleol wrth gasglu eu syniadau. Gobeithiwn y bydd yr adborth a gesglir yn seiliau cadarn ar gyfer cynllunio’r dyfodol.”

 

Bydd LocalMotion Caerfyrddin yn ysbrydoli ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin y mae cymunedau’n eu hwynebu, er mwyn iddynt allu ffynnu a bod yn llwyddiannus, ac i weithio gyda phobl Caerfyrddin i lunio’r dyfodol.

bottom of page