top of page

Partneriaid

Cyngor Sir Gar.png

Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o’r cyflogwyr mwyaf amrywiol yn Ne Orllewin Cymru ac maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau er lles ein cymunedau.

MIC.png

Mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru yw Mentrau Iaith Cymru (MIC).

Welsh-Government.jpg

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Maent yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio.

Mudiad Meithrin.png

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.

Cymraeg i blant.jpg

Mae Cymraeg i Blant yn gynllun cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant ac i ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.  Rheolir y cynllun gan y Mudiad Meithrin

Cronfa Gymunedol y Loteri Sgwar.jpg

Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer achosion da. Mae unigolion neu mudiadau yn defnyddio'r arian hwn i wella bywydau a'u cymunedau drwy brosiectau amrywiol gan gynnwys Cynllun Profi.

cymraehelovblod.png

Prosiect cenedlaethol yw Helo Blod sy'n cynnig cefnogaeth a chymorth i fusnesau ar eu defnydd o'r Gymraeg. Gall hyn gynnwys cyfieithu am ddim, marchnata dwyieithog, recriwtio - unrhyw beth i'w wneud a'r Gymraeg mewn busnes.

Theatr Genedlaethol Cymru.png

Mae Theatr Genedlaethol Cymu yn creu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gyda’r nod o gyffroi, diddanu a thanio dychymyg ein cynulleidfaoedd. Maent hefyd yn creu cyfleoedd i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg.

Say Something in Welsh.png

Cwrs sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddysgu, deall a siarad Cymraeg yw Say Something in Welsh. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i gynorthwyo dysgwyr ac maent hefyd yn trefnu 'bootcamps' er mwyn galluogi pobl i ddod at ei gilydd i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg.

gwyl fwyd cne logo.png

Pwyllgor gwirfoddol sy'n dod a'r gymuned at ei gilydd bob blwyddyn yw Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn. Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i fusnesau lleol a newydd i arddangos eu cynnyrch i dros 3,000 o ymwelwyr.

Coleg_Cymraeg_Cenedlaethol_Logo_(Yellow)

Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Maent yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Syniadau Mawr Cymru 1.png

Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru yn bodoli i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ac ysgogi pobl ifanc dan 25 oed i ddatblygu sgiliau menter beth bynnag fo'u dewis gyrfa. 

Canolfan Hywel Dda.png

Mae gerddi hyfryd Canolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf yn dathlu cyfraniad unigryw un o ffigurau hanesyddol enwocaf Cymru, Hywel Dda. Dyma le hyfryd er mwyn oedi, mwynhau a dysgu ffeithiau newydd a diddorol.

Gwirfoddoli Cymru.png

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector yng Nghymru yw Gwirfoddoli Cymru. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i fanteisio i'r eithaf ar botensial gwirfoddoli yng Nghymru.

Y Pwerdy, Pont Tweli.gif

Canolfan gymunedol a chelfyddydol wedi'i lleoli yn Llandysul yw'r Pwerdy. Maent yn rhoi cyfle i bawb yn y gymuned i gael mynediad i ddysgu a chynhwysiant a fydd yn cwmpasu a chynnwys anghenion pawb.

Bro360.png

Mae'r Papurau Bro yn bodoli mewn cymunedau dros Cymru gyfan a rydym ni yn cydweithio yn agos gyda Papurau Bro yr ardal megis  Y GarthenCwlwm, Y Cardi Bach a Clonc.

Tir Coed.png

Mae Tir Coed yn elusen sy'n cysylltu pobl â choetiroedd gan ddefnyddio gwirfoddoli, hyfforddiant a gweithgareddau wedi eu teilwra er mwyn cynyddu lles, datblygu sgiliau a gwella coetiroedd er lles pawb.

Heddlu Dyfed Powys.png

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn diogelu’r bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i gadw ein cymunedau yn ddiogel.

Gyrfa Cymru.jpg

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio'ch gyrfa, paratoi at gael swydd, dod o hyd, ac ymgeisio am brentisiaethau, cyrsiau a'r hyfforddiant cywir. Gallwch gael sgwrs ar-lein neu dros y ffôn gyda arbenigwr i ddarganfod mwy.

Breakthro Nantgaredig.jpg

Elusen fach, annibynnol yw Breakthro’ Caerfyrddin sy’n darparu gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a hwyliog i blant pedair i ddeunaw oed sydd ag anghenion a/neu anabledd corfforol, sy’n byw yn ardal Caerfyrddin a’r cyffiniau. 

Futureworks.jpg

Mae Futureworks yn arbenigo mewn gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau, gan fynd i'r afael â diweithdra a hyrwyddo symudedd cymdeithasol.

Cymraeg i oedolion.png

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael mewn cymunedau ledled Cymru, yn ystod y dydd a gyda'r nos. Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal gan rwydwaith o ddarparwyr cwrs ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cyngor Sir Ceredigion.png

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod unedol a grëwyd ym 1996 ac yn gyfrifol am amrywiaeth o faterion o iechyd amgylcheddol i briffyrdd, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol,
twristiaeth datblygu economaidd a mwy.

Prifysgol y Drindod Dewi Sant.jpg

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dri phrif gampws yn Ne-orllewin Cymru yn ogystal â champws yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham. Maent yn cynnig ystod eang o raglenni academaidd a phroffesiynol ar lefel Israddedig ac ôl-raddedig.

RLP logo.png

Mae’r Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru yn un o dair partneriaeth ranbarthol yng Nghymru sy'n gweithio i hybu buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. 

merched%20y%20wawr%20logo%200-%20clir_ed

Mae Merched y Wawr yn fudiad gyda dros 280 o ganghennau a chlybiau yng Nghymru sy'n gwneud pob math o bethau gan gynnwys coginio, crefftau, teithio, chwaraeon, darlithau, helpu elusennau, canu, cwisiau a llawer mwy. Prif nod y mudiad yw ymgyrchu dros hawliau'r iaith Gymraeg a hawliau merched.

Ffedarasiwn Hyfforddiant Cymru.jpg

Corff sy’n cynrychioli dros 100 o sefydliadau ac unigolion sy’n ymwneud â’r diwydiant hyfforddi yw Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Maent yn gweithio i ddatblygu'r rhwydwaith i gyflawni rhagoriaeth mewn sgiliau galwedigaethol.

Yr Atom..png

Canolfan Gymunedol Gymraeg yw’r Atom sy'n gartref i Menter Gorllewin Sir Gâr, Mudiad Meithrin Myrddin a mwy. Gallwch logi ystafell gynadledda, mwynhau lluniaeth yn y caffi, ymuno ag amrywiaeth o wersi Cymraeg neu ymuno â grŵp Ti a Fi ar gyfer plant bach a rhieni. Mae yna groeso i bawb alw heibio unrhyw bryd i ymarfer eu Cymraeg yn  Yr Atom.

Menter Dinefwr.jpg

Mae Menter Dinefwr yn un o dair Menter Iaith yn Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ymhob agwedd o fywyd.

Cered Logo.png

Trwy bartneriaethu a chydweithio y mae Cered yn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion er mwyn gosod y seiliau gorau posibl ar gyfer tyfu a datblygu'r Gymraeg ar lefel gymunedol a chymdeithasol, mewn addysg ac yn y byd gwaith.

Amgueddfa WLan Cymru.jpg

Mae amgueddfa wlân Cymru wedi'i lleoli yn Nrefach Felindre ac am ddim i'r cyhoedd ymweld a dysgu mwy am hanes y diwydiant. Mae yna hefyd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ymo er mwyn dod a'r gymuned at ei gilydd. 

cffisirgar.jpg

Mudiad ieuenctid gwledig dwyieithog dynamig a hygyrch sy’n helpu ac yn cynorthwyo pobl ifanc i fod yn ffermwyr llwyddiannus, unigolion hyderus, cyfranwyr effeithiol a dinasyddion cyfrifol yw CFfI Cymru. Mae ganddynt dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed ar draws Cymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 157 o glybiau.

gwefan meddwl.jpg

Mae gwefan Meddwl yn lle i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Menter Cwm Gwendraeth Elli - Logo.png

Nod Menter Cwm Gwendraeth yw hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Ers 1998 maent wedi datblygu sawl prosiect mewn amrywiaeth o feysydd gan sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu.

12168_photo_26884.png

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Fel yr adran gwasanaeth cyhoeddus fwyaf y Deyrnas Unedig, meant yn gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau arall.

Actif Sir Gar.png

Mae Actif Sir Gaerfyrddin  yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd er mwyn sicrhau bod ymarfer corff yn rhan o fywydau unigolion yr ardal.

Canolfan s4c yr egin 1.jpg

Canolfan greadigol a digidol newydd sbon wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yw'r Egin. Mae'n bodoli i wasanaethu Cymru, i danio dychymyg creadigol ac i feithrin talentau’r dyfodol.

Logo'r_Urdd.png

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw mae gan yr Urdd dros 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed.

Coleg celf sir gar.png

Mae'r ysgol gelf yn rhan o Goleg Sir Gâr ac adnabyddus am ei diwylliant cynhwysol a'i pholisi drws agored ar draws adrannau. Maent yn rhoi'r cyfle i unigolion creadigol gyfoethogi a datblygu eu sgiliau drwy amrywiaeth o gyrsiau o lefel mynediad i lefel raddedig.

Cynllun Linc.jpg

Menter trafnidiaeth wledig newydd yn gweithredu yng ngorllewin Cymru yw Cynllun Linc. Maent yn cysylltu cymunedau gwledig â’r prif wasanaethau bws ac â’r rhwydwaith trenau, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd gwledig, iechyd a’r economi leol.

Menter Iaith Sir Benfro.png

Nod menter iaith Sir Benfro yw hybu'r Gymraeg o fewn y sir drwy amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau yn ôl galw'r gymuned.

Coleg Sir Gar.png

Mae’r Coleg, sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn cynnig ystod eang o gyrsiau addysg bellach, addysg uwch, a chyrsiau masnachol o lefel mynediad drwodd i lefel gradd mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a galwedigaethol.

Bwrdd Iechyd Hywel Dda.jpg

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 384,000 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

CAVS.png

Elusen annibynnol sy'n  gweithio i gryfhau a grymuso sefydliadau'r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin yw CAVS. Maent yn darparu arweiniad, cymorth a chefnogaeth i sefydliadau a grwpiau cymunedol, gan eu galluogi i fod yn gynaliadwy ac effeithiol.

CAVO.gif

Mae CAVO yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithrediad cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion. Trwy weithio'n agos gyda sefydliadau ledled y sir maent yn gallu darparu gwasanaeth i unigolion, sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, ac i sefydliadau, sy'n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith.

Carmarthen Journal.png

Mae'r Journal wedi gwasanaethu cymuned Sir Gaerfyrddin ers dros 200 mlynedd ac mae'n bapur sy'n cael ei ddarllen gan fwyafrif o drigolion yr ardal. Cyfrifoldeb  Menter Gorllewin Sir Gâr yw cynnwys y dudalen Gymraeg wythnosol.

bottom of page